Cyngor Celfyddydau Cymru | La Biennale

La Biennale

Hanes

Curadur La Biennale 2013
Massimiliano Gioni
Massimiliano Gioni

Ers dros ganrif bu Biennale Fenis (La Biennale di Venezia) yn un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf y byd. Ers ei sefydlu, bu ar flaen y gad wrth ymchwilio i dueddiadau artistig newydd a'u hyrwyddo. Yn Fenis, trefna ddigwyddiadau rhyngwladol ym maes y celfyddydau cyfredol sydd ymhlith y pwysicaf o'u math yn y byd.


Thema

Y teitl a ddewiswyd i Arddangosfa Gelf Ryngwladol Rhif 55 yw Il Palazzo Enciclopedico.

Ysbrydolir y sioe gan freuddwyd iwtopaidd Marino Auriti, a anfonodd ddyluniad at Swyddfa Patent yr U.D.A. yn 1955 a ddangosai ei Palazzo Enciclopedico (Y Palas Gwyddoniadurol), sef amgueddfa ddychmygol a fyddai yn gartref i holl wybodaeth y byd.


Curadur

Penodwyd Massimiliano Gioni yn guradur Biennale 2013 gan fwrdd y Biennale dan gadeiryddiaeth Paolo Baratta.

La Biennale
Cymru yn Fenis 2013

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245