Cyngor Celfyddydau Cymru | Cymru yn Fenis 2013

Cymru yn Fenis 2013

Bedwyr Williams a The Starry Messenger. Digwyddiad sy’n cyd-fynd â’r Arddangosfa Gelfyddydol Ryngwladol Rhif 55 – La Biennale di Venezia.

Cynrychiolaeth swyddogol Cymru yn Nigwyddiad Cyfochrog Biennale Fenis 2013 yw'r artist, Bedwyr Williams, ym Mhafiliwn Cymru yn Santa Maria Ausiliatrice: y Ludoteca yn Castello.

Sefydlwyd y Biennale (La Biennale di Venezia) ym 1895 a dyma'r digwyddiad hynaf a'r pwysicaf yng nghalendr y celfyddydau gweledol cyfredol rhyngwladol. Pob dwy flynedd â Fenis yn llwyfan i'r byd gyda sylw'r cyfryngau a'r gymuned celfyddydau gweledol wedi ei hoelio arni am chwe mis.

Rhydd y Biennale gyfle rhyngwladol allweddol i artistiaid Cymru a gaiff sylw beirniaid rhyngwladol a chynulleidfaoedd, marchnadoedd a chyd-destunau newydd.

Ariennir arddangosfa Cymru yn Arddangosfa Gelfyddyd Ryngwladol rhif 55 gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i grant mewn cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245