Cyngor Celfyddydau Cymru | Cymru yn Fenis 2011
Cymru yn Fenis 2011

Cymru yn Fenis 2011

Gwaith Tim Davies oedd yn Nigwyddiad Cyfochrog cynrychiolaeth swyddogol Cymru ym Miennale Fenis 2011 ym Mhafiliwn Cymru yn Santa Maria Ausiliatrice: y Ludoteca yn Castello.

Sefydlwyd y Biennale (La Biennale di Venezia) ym 1895 a dyma'r digwyddiad hynaf a'r pwysicaf yng nghalendr y celfyddydau gweledol cyfredol rhyngwladol. Pob dwy flynedd daw Fenis yn llwyfan i'r byd gyda sylw'r cyfryngau a'r gymuned celfyddydau gweledol wedi ei hoelio arni am chwe mis.

Mae’r Biennale yn rhoi cyfle rhyngwladol allweddol i artistiaid Cymru a gaiff sylw beirniaid rhyngwladol a chynulleidfaoedd, marchnadoedd a chyd-destunau newydd.

Cefnogir yr arddangosfa o Gymru yn Arddangosfa Gelf Ryngwladol Rhif 54 gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'i grant mewn cymorth o Lywodraeth Cymru.

Dysgwch fwy am yr arddangosfa yma.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245