Cyngor Celfyddydau Cymru | Crochan a Ffwrnais
Crochan a Ffwrnais

Crochan a Ffwrnais

Mae project Crochan a Ffwrnais yn dod â hanes Cymru yn fyw fel na fu erioed o'r blaen.

Wrth wraidd Crochanau a Ffwrneisi mae uchelgais i adrodd straeon anghyffredin mewn lleoedd anghyffredin. Profa ymwelydd haf 2012 i wyth safle eiconig Cadw dreftadaeth gyfoethog ein cenedl o'i dechrau chwedlonol i'w phresennol cynhyrfus. Ar y ffordd cânt gip ar amrywiaeth, sgiliau a thalent ein pobl ifainc a'r artistiaid sy'n eu hysbrydoli.

Gwylio rhagor o fideos Grym y Fflam yma

Cychwynna'n taith yn addas iawn a phererindod sy'n ymadael ag Abaty Llanddewi Nant Hodni ar 16 Mehefin. Dilynir llwybr pererinion, brenhinoedd, saint, lloerigion a thlodion yr Oesoedd Canol gan gyrraedd Tyddewi 22 o ddyddiau'n hwyrach. I ddathlu diwedd y daith, perfformir anthemau a dramâu ac arddangosir gweithiau celf a gomisiynwyd yn arbennig. Mae gwahoddiad cynnes i bawb ymuno â Dewi Sant a'i bererinion yn rhan olaf y daith drwy Dyddewi a'r gadeirlan ac i Balas yr Esgob lle bydd bwyd a gŵyl, cerdd a hwyl.

Ar y ffordd bydd cyfle i weld cestyll, ffynhonnau sanctaidd a safleoedd hynafol gan gynnwys Blaenafon, Caerffili a Thalacharn lle cynhelir digwyddiadau arbennig. Yn Llwybrau a Chwedlau Castell Talacharn cewch glywed am fis y straeon cudd yn ei welydd a'i erddi. Bydd hefyd gyfres o ffeiriau, gwyliau a dyddiau crefft. Cynnal Castell Caerffili ŵyl farddonol sy'n para am dridiau. Cynnwys Awen gerfluniaeth, ffilm, drama, cerdd a dawns ac archwilia swyddogaeth y castell yng ngorffennol, presennol a dyfodol Caerffili. Gwahanol iawn yw'r dirwedd ddiwydiannol a cherrig dan y ddaear sy'n ysbrydoli Elfennol yng Ngwaith Dur Blaenafon.

Crochan a Ffwrnais: MabinogionYn y gogledd, treftadaeth fetel gwahanol a archwilir. Mantell yw prosiect Castell Dinbych i ddathlu'r Oes Efydd sy'n adrodd stori arwrol sy'n debyg i'r Odyseia a ysbrydolir gan hen gyfoeth y Gogledd-ddwyrain, yn enwedig Mantell Aur yr Wyddgrug.

Ychydig i'r gogledd eto, bu plant sir y Fflint ar eu taith eu hunain dros y tair blynedd diwethaf. Penllanw eu gwaith fydd pasiant hanes yng Nghastell y Fflint sy'n cwmpasu goresgyniad y Rhufeiniaid, y Normaniaid a'r Saeson.

Daw rapwyr, dylunwyr digidol, cyfansoddwyr, pobl ffilm, cantorion roc, actorion a sgriblwyr at ei gilydd yng Nghastell Caernarfon am gyfres drawiadol o osodiadau a pherfformiadau byw sy'n dathlu goresgyn y castell gan y Cofis eu hunain. Ysbryd Owain Glyndŵr sydd y tu ôl i Gipio’r Castell a'i symbol yw draig yng nghwsg. Cewch sioc o weld y digwyddiadau annisgwyl.

Rhoddid Meirionnydd ar y map gan Wyliau Cerddorol yr haf a gynhelid yng Nghastell Harlech (1867-1932). Ar batrwm Pasiant 1922 edrydd pobl ifainc lleol am saith cyfnod hanesyddol drwy lygaid cyfoes. Mae gan bob cyfnod motiff cerddorol sy'n cynnwys popio corff a bocsio bît adeiladwyr Edward I a seren roc gwrthryfelgar Owain Glyndŵr sy'n debyg i Ziggy Stardust. Comisiynwyd trefniant newydd o Ryfelgyrch Gwŷr Harlech a chyda mewnbwn y dechnoleg newydd bydd yn chwip o noson ac yn ddiwedd addas i'r rhaglen.

pdf - logo bachDigwyddiadur Grym y Fflam

Mantell - Dinbych | Denbigh
Grym y Fflam

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245