Cyngor Celfyddydau Cymru | Portffolio Celfyddydol Cymru

Portffolio Celfyddydol Cymru

Mae 67 Sefydliad yn rhan o Bortffolio Celfyddydol Cymru, a hynny o fis Ebrill 2016 ymlaen.

Aelodau Portffolio Celfyddydol (a elwid gynt yn Sefydliadau Refeniw) yw'r cleientiaid hynny sy'n cael grantiau rheolaidd, a ddyfernir yn flynyddol, tuag at eu gweithgareddau craidd.

Mae buddsoddiad Cyngor Celfyddydau Cymru yn y Portffolio Celfyddydol yn un o'r prif ffyrdd rydym yn anelu at sicrhau sector creadigol a deinamig ar gyfer y celfyddydau, a chyflawni'r blaenoriaethau strategol a amlinellwyd yn ein Cynllun Corfforaethol ac a gytunwyd arnynt gyda Llywodraeth Cymru.

Llawlyfr Portffolio Celfyddydol Cymru

Rydym yn gosod disgwyliadau ehangach ochr yn ochr â nifer o dargedau cyffredin i bob aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru. Mae ein Llawlyfr yn esbonio sut rydym yn rheoli ein perthynas gydag aelodau'r portffolio. Mae'r ddolen i'r Llawlyfr hefyd yn cynnig mynediad i dempledau i gyflwyno gwybodaeth yn ystod pob blwyddyn ynglŷn â sut mae'r sefydliad yn gweithredu ac yn perfformio.

Rhaglen Wytnwch: Nid yw Rhaglen Wytnwch Portffolio Celfyddydol Cymru yn derbyn ceisiadau ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os ydych chi'n aelod o Bortffolio Celfyddydol Cymru sydd â diddordeb mewn ymuno â'r Rhaglen, cysylltwch â andrew.richards@celf.cymru

Arolwg Portffolio Celfyddydol Cymru

Gyrrir Arolwg Portffolio Celfyddydol Cymru i'r 67 aelod pob 6 mis. Yn bennaf, mae'r arolwg yn casglu data am nifer y digwyddiadau celfyddydol a gynhelir a chyfraddau mynychu'r gweithgareddau hyn. Darllenwch ragor yma am Arolwg Portffolio Celfyddydol Cymru.

Daethpwyd o hyd i 6 aelod

Pori yn ôl yr wyddor:

Opera Canolbarth Cymru
Bryn Wgan
Trefeglwys, Caersws,
Powys
SY17 5QU
Opera Cenedlaethol Cymru
Canolfan Mileniwm Cymru,
Plas Bute,
Caerdydd
CF10 5AL
Oriel Davies Gallery
Y Parc
Y Drenewydd
Powys
SY16 2NZ
Oriel Gelf Glynn Vivian
Alexandra Road
Abertawe
Abertawe
SA1 5DZ
Oriel Mission
Gloucester Place
Maritime Quarter
Abertawe
SA1 1TY
Oriel Myrddin
Heol yr Eglwys
Caerfyrddin
Sir Gâr
SA31 1LH

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245