Cyngor Celfyddydau Cymru | Agenda'r Llywodraeth

Agenda'r Llywodraeth

Os ydym am gyflwyno ein hachos i wleidyddion lleol a chenedlaethol yn effeithiol, mae’n bwysig deall sut mae’r celfyddydau yn hyrwyddo eu hamcanion ehangach.

Mae Llywodraeth Cymru’n teimlo bod gan sector y celfyddydau ran bwysig i’w chwarae wrth

  • adeiladu cymunedau
  • gyrru twf economaidd
  • dangos Cymru ar ei gorau ar lwyfan ryngwladol
  • hybu twristiaeth
  • cefnogi addysg a chreu swyddi

Yn eu tro, mae awdurdodau lleol yn amlwg yn rhoi’r un rhesymau dros fuddsoddi yn y celfyddydau. Bydd eich gwaith dylanwadu’n fwyaf effeithiol os yw’n dangos sut y mae’ch sefydliad yn cyfrannu yn y meysydd allweddol hyn.

Adeiladu cymunedau cadarn

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi ymfalchïo yn ei ymroddiad i ddylunio nodedig o safon uchel ers y cychwyn cyntaf, gan gredu bod pobl Cymru’n haeddu’r cyfleusterau gorau i fwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.

Mae’r celfyddydau’n bwysig. Dywedodd 80% o’r bobl a wahoddwyd i gymryd rhan yn Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru 2010 eu bod nhw’n credu bod y celfyddydau a diwylliant yn gwneud Cymru’n lle gwell i fyw, a’i bod hi’n iawn y dylent gael cymorth trwy gyllid cyhoeddus. Cytunodd 92% bod cymryd rhan yng ngweithgareddau’r celfyddydau a diwylliant yn helpu pobl i fagu hyder.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn credu bod y celfyddydau’n gwneud gwahaniaeth, y dylent fod yn hygyrch i bawb yng Nghymru, ac y dylai pawb gael y cyfle i gymryd rhan ynddynt a’u mwynhau. Gallai’r celfyddydau fod wrth galon adfywiad Cymreig, hyd yn oed mewn cyfnod o ddirwasgiad.

A allwch chi ddangos manteision cymdeithasol eich gwaith?

Er enghraifft, mae Celf ar y Blaen yn cyflawni rhaglen o weithgareddau’r celfyddydau sy’n galluogi unigolion ac yn darparu cyfleoedd i drawsnewid bywydau pobl.

Gyrru twf economaidd

Yng Nghymru, nodwyd bod y diwydiannau creadigol yn allweddol wrth yrru busnes a thwf, ac mae rôl debyg gan ddiwylliant hefyd. Mae’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yn bwysig i fywyd dinesig hefyd. Yn ogystal ag ychwanegu at ansawdd cyffredinol ein bywydau, maent yn gwneud ein trefi a’n dinasoedd yn llefydd gwell i fyw, ac maent yn clymu ein cymunedau gwledig at ei gilydd. Maen nhw’n datblygu sgiliau creadigol ein pobl ifanc ac yn eu gwneud nhw’n ddysgwyr gwell.

Mae’r celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yn bwysig i bobl. Mae 8 allan o bob 10 oedolyn yng Nghymru yn mynychu’r celfyddydau, a 9 allan o bob deg o’n pobl ifanc (16-24 oed).

Mae’r celfyddydau’n bwysig i les economaidd Cymru hefyd. Mae gwaith ymchwil diweddar Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yng Nghymru’n dangos bod dros 24,000 o bobl yn gweithio ym maes y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol, a bod y sector yn cyfrannu tua £465m at economi Cymru.

A allwch chi ddangos sut mae’ch sefydliad wedi cyfrannu at yr economi lleol neu genedlaethol?

Er enghraifft, cyfanswm effaith economaidd uniongyrchol WOMEX 13 oedd £2,896,232.

Dangos y gorau o Gymru ar lwyfan rhyngwladol

Mewn byd cynyddol gystadleuol, mae gan y celfyddydau a diwylliant ran annatod i’w chwarae wrth ddangos y gorau o Gymru ar lwyfan ryngwladol. Denodd WOMEX 13 Caerdydd – sef sioe fwyaf Cerddoriaeth y Byd – 2,250 o gynrychiolwyr a 1,260 o gwmnïau o 90 o wledydd, 800 o bobl sy’n bwcio cyngherddau a gwyliau, hyrwyddwyr a chanolfannau, 560 o labeli, cyhoeddwyr a dosbarthwyr, 680 o asiantau bwcio, 560 o reolwyr a 270 o gynhyrchwyr i Gymru. Nodwyd taw creadigrwydd, treftadaeth a diwylliant oedd yr unig ddangosyddion i ddangos effaith unfrydol bositif ar y canfyddiadau o Gymru dramor yn sgil yr achlysur.

A allwch chi ddangos sut mae eich gwaith wedi dangos y diwydiannau creadigol Cymreig yn rhyngwladol?

Er enghraifft, ers ei berfformio yng Nghaerdydd yn ôl yn 2010, mae Llwyth, drama bwerus Dafydd James, wedi teithio Cymru deirgwaith, wedi’i llwyfannu’n Llundain a Chaeredin ac yn Awst 2012 aerh i Ŵyl Gelfyddydol Taipei yn Nhaiwan.

Hybu twristiaeth

Mae twristiaeth yn chwarae rhan bwysig yn economi Cymru. Gyda’i chymysgedd o dreftadaeth, diwylliant a chefn gwlad, mae Cymru’n dal i fod yn gyrchfan bwysig i ymwelwyr o dramor. Mae diwylliant yn rhan annatod o brofiad yr ymwelwyr. Daw’r rhan fwyaf o’r ymwelwyr i gysylltiad â diwylliant Cymru yn ystod eu hymweliad - naill ai trwy brofiadau cyffredinol (teimlad o le, iaith, bwydydd a diodydd lleol, crefftau a cherddoriaeth), neu trwy ymweliadau penodol ag atyniadau treftadaeth a diwylliant. Mae’r hyn sydd ar gael o ran diwylliant a threftadaeth yn cyfrannu’n sylweddol at economi ymwelwyr Cymru. Yn 2011, gwariwyd £146 miliwn ar wyliau lle diwylliant oedd prif weithgaredd y gwyliau, a gwariwyd £590 miliwn ar wyliau lle cymerwyd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol yn rhan o’r gwyliau.

A allwch chi ddangos sut mae eich gwaith yn cyfrannu at dwristiaeth leol neu genedlaethol?

Er enghraifft, Canolfan Mileniwm Cymru yw’r prif atyniad i ymwelwyr yng Nghymru, gan ddenu dros miliwn o ymwelwyr yn flynyddol, ac mae’n 12fed yn nhabl atyniadau diwylliannol y Deyrnas Unedig

Cefnogi addysg

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol yn ddiweddar o dan y teitl Y Celfyddydau mewn Addysg, sy’n dangos sut y gellir defnyddio’r celfyddydau i godi safonau addysg cyffredinol mewn ysgolion.

Yr adroddiad hwn yw’r arolwg manwl cyntaf o’r berthynas rhwng sector y celfyddydau a'r sector addysg yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad, mae sefydliadau’r celfyddydau’n ei chael hi’n fwyfwy anodd darbwyllo ysgolion i gymryd eu gwaith oherwydd y gost, diffyg amser a’r ffaith fod llawer o ysgolion yn gweld y celfyddydau fel "blaenoriaeth isel, dianghenraid neu afradlon".

Yn ôl yr adroddiad: "Mae’r pwyslais cyfredol, ac angenrheidiol iawn, sydd ar lythrennedd a rhifedd yn culhau ffocws ysgolion ac yn cyfyngu ar y cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc gymryd rhan mewn arferion creadigol sydd - yn eironig ddigon - yn gallu codi safonau yn y meysydd hyn."

Roedd y ddogfen yn adolygu’r ddarpariaeth gelfyddydol gyfredol mewn ysgolion ledled Cymru, a chafodd bod gwasanaethau’n amrywio’n helaeth o un ardal i’r llall. Datgelodd bod yna lefelau sylweddol wahanol o ymgysylltiad yn y system ysgolion ei hun, gyda sefydliadau refeniw Cyngor Celfyddydau Cymru yn darparu 73% o’u gweithgareddau ar gyfer ysgolion cynradd, a chwta 23% ar gyfer ysgolion uwchradd.

Cynigiodd yr adroddiad nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ei ganfyddiadau.

Mae’r rhain yn cynnwys datgan yn ffurfiol rôl greiddiol addysg ym maes y celfyddydau mewn ysgolion, ac amlygu creadigrwydd fel sgil craidd; defnyddio’r celfyddydau i wella rhifedd a llythrennedd a chau’r bylchau o ran cyrhaeddiad; a chefnogaeth dros bennu "hyrwyddwyr y celfyddydau" mewn ysgolion yn rhan o gynllun cenedlaethol ar gyfer dysgu creadigol.

Mae’r adroddiad cyflawn ar gael i’w lawrlwytho yma.

A allwch chi ddangos pa fudd y mae plant a phobl ifanc yn ei gael o’ch sefydliad?

Er enghraifft, mae cenhedlaeth newydd o dalent llenyddol wedi’i hybu a’i chynorthwyo drwy Sgwadiau `Sgwennu'r Ifainc Llenyddiaeth Cymrul Datblygir hwy trwy gydweithrediad awdurdodau lleol ledled Cymru a darparant gyfleoedd i `sgwennwyr ifainc talentog i weithio gyda beirdd, awduron a dramodwyr.

Meithrin dawn ar gyfer y diwydiannau creadigol

Mae’r celfyddydau’n bwysig i les economaidd Cymru hefyd. Mae gwaith ymchwil diweddar Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yng Nghymru’n dangos bod dros 24,000 o bobl yn gweithio ym maes y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol, a bod y sector yn cyfrannu tua £465m at economi Cymru.

Yng Nghymru, mae’r sector yn darparu swyddi ar gyfer dros 30,000 o bobl mewn dros 4,200 o fentrau, ac yn cynhyrchu trosiant blynyddol gwerth dros £1.8 bn.

I gael rhagor o fanylion ewch i: http://www.nesta.org.uk/project/digital-rd-fund-arts-wales

A allwch chi ddangos sut mae’ch gwaith yn helpu i feithrin y ddawn sy’n gosod diwydiannau creadigol Cymru gyda’r gorau yn y byd?

Er enghraifft, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yw canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru, ac fel canolfan arobryn, fe’i cydnabyddir yn ganolfan flaenllaw i’r celfyddydau.

Mae ganddi raglen gelfyddydol helaeth sy’n cynhyrchu ac yn cyflwyno gwaith ar draws yr holl wahanol fathau o gelfyddyd, gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, y cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol.

Yn 2000 cwblhawyd gwerth £4.3 miliwn o waith ailddatblygu yn y Ganolfan, a chyflawnwyd datblygiad pellach gwerth £1.75 miliwn yn ddiweddar. Ychwanegodd hyn gyfadeilad o stiwdios ar gyfer artistiaid a’r diwydiannau creadigol, ac mae’n gweithredu fel canolfan ar gyfer rhaglen bwysig o artistiaid preswyl.

Mae hyn yn golygu bod gan Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth gyfleusterau sydd heb eu hail yn y rhan fwyaf o Brydain. Bwriad y cyfnodau preswyl yw rhoi amser a chyfle i’r artistiaid ddatblygu eu gwaith. Maent yn rhoi cyfle i’r artistiaid gamu i ffwrdd o gyfyngiadau bywyd pob dydd a chael amser i ddatblygu eu harferion artistig unigryw, ac i gyfnewid sgiliau a syniadau â phobl o ddisgyblaethau eraill mewn byd creadigol.

Creu swyddi

Yng Nghymru, nodwyd bod y Diwydiannau Creadigol, a diwylliant yn allweddol wrth yrru twf busnes.

Mewn cydweithrediad ag amrywiaeth o bartneriaid eraill, rydyn ni’n cefnogi sector y diwydiannau creadigol a diwylliannol trwy fuddsoddi mewn sefydliadau, a thrwy ddatblygu a chefnogi eu hunigolion.

Rydyn ni’n cyfrannu at adfywiad cymunedau, ac yn enwedig y rhai lle mae lefelau uchel o amddifadedd cymdeithasol, trwy fuddsoddi yn eu seilwaith yn rhan o’n rhaglen datblygu cyfalaf, ac at brosiectau a gweithgareddau’r celfyddydau trwy raglenni buddsoddi blynyddol eraill.

Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r Sgiliau Creadigol a Diwylliannol i ddatblygu hyfforddiant i’r gweithlu, a gwasanaethau cymorth busnes i bobl sy’n gweithio yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol.

A allwch chi ddangos sut mae eich sefydliad wedi cyfrannu at greu swyddi?

Er enghraifft, o ran cyflogaeth, mae Galeri Caernarfon yn cefnogi dros 50 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn economi Gwynedd ac Ynys Môn, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn ogystal â dros 40 o gyflogeion mewn busnesau preswyl. Fel cwmni sy’n cyflogi staff sy’n gyfwerth â 36 o staff llawn amser, mae Galeri Caernarfon ymysg dim ond 6% o gwmnïau yng Ngwynedd sy’n cyflogi mwy na 25 aelod o staff.

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245