Aelodau penodedig yw'r Cyngor ac maent oll yn cyfrannu eu profiad a'u harbenigedd am Gymru a'r celfyddydau er mwyn dwyn dylanwad ar ddatblygiad y celfyddydau yng Nghymru.
Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru sy'n penodi aelodau Cyngor Celfyddydau Cymru. Fel arfer mae’r aelodau’n gwasanaethu am gyfnod o dair blynedd a gellir eu hailbenodi am dair blynedd arall.
Mae eu swyddogaeth yn un bwysig. Fel corff, mae'r Cyngor yn gyfrifol am sicrhau buddsoddiad effeithiol a chywir o gyllid Llywodraeth Cymru ac arian y Loteri.
Mae’r Cyngor yn gyfrifol am:
- bennu cyfeiriad strategol Cyngor y Celfyddydau
- datblygu, gweithredu a monitro polisi’r celfyddydau
- cytuno ar Gynlluniau Corfforaethol a Gweithredol
- pennu’r gyllideb flynyddol
- dyrannu grantiau yn flynyddol i sefydliadau a ariennir drwy refeniw
- sicrhau bod Cyngor y Celfyddydau yn rheoli ei faterion yn effeithiol a’i fod yn atebol
Mae’r cyngor yn dirprwyo:
- penderfyniadau ar grantiau hyd at £50,000 i’r staff
- penderfyniadau ar grantiau cyfalaf y Loteri rhwng £50,001 a £250,000 i’r Pwyllgor Cyfalaf
- penderfyniadau ar arian y Loteri ar gyfer ffilm i Asiantaeth Ffilm Cymru
Hefyd mae Ymgynghorwyr Cenedlaethol a benodir gan aelodau'r Cyngor i roi cyngor arbenigol y ôl y gofyn.
Dowch i wybod mwy am aelodau'r Cyngor, y cynlluniau a gytunwyd arnynt, a phapurau sydd ar gael yn dilyn cyfarfodydd y Cyngor.