Cyngor Celfyddydau Cymru | Iwan Bala

Iwan Bala

Daeth Iwan Bala yn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru ym mis Rhagfyr2016.

Artist, darlithydd ac ysgrifwr yw Iwan Bala sydd wedi arddangos yn eang yng Nghymru a thramor dros dri degawd a chyhoeddi llyfrau am gelfyddydau cyfoes Cymru.

Mae ei waith mewn llawer o gasgliadau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys un Amgueddfa Cymru, Caerdydd.

Bu'n gweithio i Gywaith Cymru ym maes celfyddyd gyhoeddus a dysgu ar gyrsiau BA ac MA mewn Celfyddyd Gain. Ar hyn o bryd ef yw Arholwr Allanol y cwrs Meistr mewn Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ac mae'n ymchwilio ar gyfer PhD ar bwnc 'Estheteg Warcheidiol' ym Mhrifysgol y De.

Ni ddeil unrhyw benodiadau cyhoeddus eraill gan Weinidogion.

Nôl at y rhestr o Aelodau >>

Y Cyngor

Elusen Gofrestredig Rhif 1034245